Cardiau Cyfarchion Cymraeg / Welsh Greeting Cards

Byddai pobol ifanc yn dweud fod anfon cerdyn yn beth “hen ffasiwn” a byddai’r to hyn yn deud ei fod yn arferiad drud iawn herbyn rwan. Mae’n haws gan rai anfon neges dext, Facebook, llun ar Instagram neu sgwrs ar Facetime. Ond, mae rhai eraill yn meddwl bod negeseuon felly’n amhersonol a bod o ddim yn dod gan ffrind go iawn fel neges ffon neu lythyr a cherdyn hen ffasiwn. Dwi’n dal i joio chwilio am gardiau addas i nheulu a ffrindiau, ac ma llawer iawn o ddewis yn y siopa. Ia, yn y SIOPA ac nid siopa ar-lein! Dwi’n un sy’n licio teimlo’r stwff dwi am brynu yn hytrach nag archebu rhywbeth ar y we. Mae’n drafferthus chwilota am bethau gwahanol ar-lein heb sôn am orfod rhoi eich gwybodaeth bersonol i mewn i ryw gyfrifiadur lle gall unrhyw un ei hacio a defnyddio gwybodaeth i’w dibenion eu hunain! I fyny at ddeg, bymtheg mlynedd yn dol, digon prin oedd y dewis am gardiau amrywiol efo ychydig o hiwmor yn y ‘captions’ ac roedd y lluniau bob amser run fath – parchusrwydd y capal yn parhau yn y Gymru fodern ma siwr! Ond, erbyn hyn, mae mwy o fentergarwch yn rhan o’n penna busnes ni. Mae rhai cwmnïau cardiau bach yn mentro gam ymhellach gan bersonoleiddio cardiau i un ardal arbennig yn y gogledd sef Gnarfon lle mae’r “C Word” yn amlwg iawn! Maent yn mynd ymhellach gan ddefnyddio’r “F Word” a dywediadau digon amrwd hefyd sy’n gallu bod yn ddoniol iawn yn lleol, ond ddim i weddill Cymru falla. Ond chware teg iddyn nhw am fentro a rhoi naw wfft i unrhyw un sy’n dal i fyw yn oes yr arth a’r blaidd. Mae penillion mewn cardiau yn dal i fod yn brin. Ond, mae un cwmni wedi mynd ati i gynhyrchu rhai sy’n addas i bob oed ac achlysur sef Cyfres Wahanol, ac mae’r darlunia i gyd wedi eu cynllunio gan artist fuodd yn byw’n lleol yn Gnarfon. Mae yno benillion bach syml i blant, pobl ifanc ac oedolion, ac mae cerdyn i bethe mor amrywiol a Bedyddio, Ymddeol, Pen-blwydd 18 a 21, 40 – 90, a hefyd Pasio Prawf Gyrru ac Arholiadau. Ro’n i’n chwilio am gerdyn efo pennill i Taid yn 100 oed, ond er nad oes yr un yn y gyfres yma, roedd digon o opsiynau eraill ganddyn nhw er enghraifft “Taid” ac “I Berson Arbennig” neu “Pen-blwydd Dedwydd”. www.cyfreswahanol.co.uk

Share this:

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *